SL(6)209 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2022 (“y Rheoliadau”) yn cael eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379).

Mae'r Rheoliadau'n estyn yr ataliad dros dro presennol ar y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir, gael eu rhewi’n ddwfn. Cyflawnir hyn drwy ddiwygio'r dyddiad y daw'r addasiad darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC i ben, yn rheoliad 3 o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/1) ("Rheoliadau 2021").

Yn unol â'r Rheoliadau, y dyddiad dod i ben newydd ar gyfer yr addasiad darfodol fydd 31 Rhagfyr 2022. Mae'r dyddiad hwn wedi cael ei estyn yn flaenorol fel a ganlyn:

·         i 30 Medi 2021 gan Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/376);

·         i 31 Rhagfyr 2021 gan Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/977); ac

·         i 30 Mehefin 2022 gan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/1480).

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Yn ôl confensiwn, rhoddir teitl y prif OS i reoliadau diwygio yn gyffredinol, ynghyd â "(Diwygio)". Mae rheoliadau blaenorol sy'n diwygio dyddiad dod i ben yr addasiad darfodol yn Rheoliadau 2021 wedi dilyn y confensiwn hwn (yr eithriad yw O.S. 2021/1480, a oedd yn gofyn am deitl gwahanol gan ei fod hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygiadau i ddeddfwriaeth arall).

Nid yw'r Rheoliadau yn dilyn y patrwm hwn ac, yn benodol, mae'r geiriau "Addasiad Darfodol" wedi'u hepgor o'r teitl. Er nad yw hyn yn ddiffyg technegol, mae ganddo’r potensial i achosi dryswch i unrhyw un sy'n ceisio olrhain y gwahanol ddiwygiadau i'r addasiad darfodol.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nid oes unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i gynnal gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r Rheoliadau. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi’r esboniad a ganlyn:

Nid yw'r gofyniad am ymgynghoriad yn codi o dan Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Felly, nid yw Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori mewn perthynas â'r offeryn hwn. Fodd bynnag, bu trafodaethau helaeth ledled Prydain Fawr â rhanddeiliaid o fewn y diwydiant bwyd-amaeth ac â phartneriaid cyflawni sy'n cyfrifol am reolaethau ar y ffin (fel awdurdodau ffiniau lleol, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r Asiantaeth Safonau Bwyd) ers Ionawr 2021.

Yn ogystal, mewn perthynas â rheoliadau'r DU, cafodd ymarfer ymgynghori byr, wedi'i dargedu, ei gynnal gan Lywodraeth y DU rhwng 25 a 30 Mai 2022. Roedd yn crynhoi'r newidiadau i'w gwneud gan y Rheoliadau hynny ac yn gwahodd sylwadau. Roedd yr ymgynghoriad wedi'i dargedu at randdeiliaid allweddol yn y sector amaeth-fwyd, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, fel sefydliadau masnach a diwydiant cynrychiadol, grwpiau â diddordeb ac awdurdodau cymwys.

Roedd yr ymgynghoriad yn cydnabod nad oedd diwygiad a wnaed gan Reoliadau'r DU i Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Lloegr) (Ymadael â’r UE) 2020 (y mae eu heffaith yn adlewyrchu Rheoliadau 2022) yn berthnasol i Gymru, ond hefyd y byddai Gweinidogion Cymru yn cyflwyno diwygiadau cyfatebol mewn deddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru yn unig.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

10 Mehefin 2022